Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 3 Rhagfyr 2020
Amser:
14.01 -
15.04
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6516
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David Rees AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Huw Irranca-Davies AS Dai Lloyd AS David J Rowlands AS |
Tystion: |
Yr Athro Kenneth Armstrong, Prifysgol Caergrawnt Yr Athro Nicola McEwan, Prifysgol Caeredin |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Nia Moss (Ymchwilydd) Rhun Davies (Ymchwilydd) Lucy Valsamidis (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Nid oedd Laura Jones yn bresennol.
1.3 Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.
2 Fframweithiau polisi cyffredin y DU - Sesiwn dystiolaeth gydag academyddion
2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Papur i’w nodi 1: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch y Cytundeb Partneriaeth Economaidd Cynhwysfawr rhwng y DU a Japan - 23 Tachwedd 2020
3.1.1 Nodwyd y papur.
3.2 Papur i’w nodi 2: Paratoadau yng Nghymru ar gyfer diwedd y cyfnod pontio - Ymatebion i’r ymgynghoriad
3.2.1 Nodwyd y papur.
3.3 Papur i'w nodi 3: Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar gyfer Diogelwch Bwyd a Phorthiant a Hylendid
3.3.1 Nodwyd y papur.
3.4 Papur i'w nodi 4: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Trafodaethau'r UE) - 1 Rhagfyr 2020
3.4.1 Nodwyd y papur.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Sesiwn dystiolaeth gydag academyddion - trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Trafod cytundebau rhyngwladol
6.1 Gwnaeth yr Aelodau drafod a nodi’r cytundebau a ganlyn:
6.1.1 Confensiwn Lugano
6.1.2 Cydnabyddiaeth Gilyddol rhwng y DU a Norwy o Ddyfarniadau Sifil
6.1.3 Cytundeb Fframwaith Pysgodfeydd y DU-Ynysoedd Ffaröe
7 Trafod y flaenraglen waith
7.1 Trafododd yr Aelodau'r flaenraglen waith a chytunwyd arni.